The 2017 Llyn Coastal Sportive was a great success. The weather was superb and the scenery was outstanding.
HERE is a link to the photographs taken by Dewi Wyn - you can browse or purchase a photo to remember!
Don't forget about the Pwllheli Triathlon on the 2nd of July 2017, with the ALL NEW Bay Swim.....Click here for more information
Cofrestru ar-lein ar gyfer Sportive Arfordirol Pen Llyn ddydd Sadwrn yr 8fed o Ebrill, 2017 yma.
1. Faint oed sydd rhaid i mi fod i gymryd rhan?
Mae’n rhaid i bawb fod dros 13 oed. Rhaid i unrhyw un sy’n iau na 18 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad. Ni fydd ceisiadau yn cael eu derbyn gan gystadleuwyr o dan ddeunaw heb fod ffurflen caniatâd rhieni wedi ei gwbwlhau, ei lofnodi a’i ddychwelyd at y trefnwyr (ffurflen ar gael i'w lawrlwytho ar y dudalen cofrestru).
2. Beth sy'n digwydd ar ôl i mi gofrestru ar y we?
Cyn y digwyddiad byddwch yn derbyn e-bost gyda chyfarwyddiadau fydd yn cynnwys amseroedd cychwyn a gwybodaeth bwysig eraill. Yn y cyfamser cadwch lygad ar ein tudalennau facebook a twitter yn ogystal â gwefan Plas Heli a’r gyfer unrhyw ddiweddariadau.
3. Beth sy'n cael ei gynnwys ym mhris y digwyddiad?
4. Pryd mae’r Sportiff ac am faint o’r gloch?
Dydd Sadwrn 8fed o Ebrill 2017. Byddwn yn cychwyn y beicwyr mewn grwpiau. Grwp cyntaf i ddechrau am 9:00 yn y bore.
5. Pwy yw'r Corff Llywodraethu?
Beicio Prydain – am fwy o fanylion ewch i’w gwefan
6. Beth yw rheolau’r digwyddiad?
Nid yw hwn yn ddigwyddiad cystadleuol - sportif ydyw nid ras, ac mae ar ffyrdd agored.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal o dan Rheolau Sportiff Beicio Prydain, Rydych yn derbyn y rheolau hyn trwy gofrestru i’r digwyddiad.
Mae gwisgo helmed beicio o Safon CE EN1078 yn orfodol i bawb.
Reidiwch yn gyfrifol:
8. Cofrestru ar y penwythnos – pryd a lle?
Bydd modd cofrestru ym Mhlas Heli ar:
Annogwn gynifer ohonoch phosibl i gofrestru ar y dydd Gwener i osgoi rhuthro ac i wneud petha’n haws i chi ar y dydd Sadwrn. Mae'n rhaid i bawb gofrestru er mwyn casglu eich pecyn digwyddiad.
Bydd eich pecyn digwyddiad yn cynnwys eich rhif. Yn ogystal, bydd disgwyl i chi allu sicrhau fod gennych feici(au) addas, helmedau (gorfodol), rhifau brys ac ati.
9. Ble mae'r lleoliad?
Plas Heli, Glan Y Don , Pwllheli LL53 5YT
10. Alla i ddefnyddio beic mynydd?
Er mai beic ffordd fydd fwyaf addas, gallwch ddefnyddio beic mynydd.
11. Beth ddylwn i ddod efo mi?
ID rhag ofn, bwyd,ffôn symudol, dillad sbâr priodol, pwmp a thiwbiau mewnol sbâr. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich beic a'r offer yn addas i'r ffordd fawr.
12. A fydd y llwybr wedi ei arwyddo?
Mi fydd arwyddion a swyddogion allan ar y cwrs yn dangos y ffordd ac unrhyw fannau penodol sydd angen bod yn wyliadwrus ohonynt.
13. A oes cyfyngiadau amser i orffen?
Mae'n rhaid i bawb gwblhau'r cwrs o fewn 6 awr i gael safle.
14. A fydd unrhyw gymorth meddygol?
Mi fydd Ambiwlans St John’s yn bresennol yn ogystal â swyddogion Cymorth Cyntaf.
15. A fydd unrhyw gefnogaeth fecanyddol?
I'w gadarnhau
16. Beth sy'n digwydd ar ôl y daith?
Bydd bwyd i bawb sydd yn cymryd rhan ym Mhlas Heli ar y diwedd.
20. Beth yw'r polisi ad-daliad?
Hawl y trefnwyr yn unig yw penderfynu ar unrhyw ad-daliad / trosglwyddiadau.
21. Lle fedra i aros dros nos?
Ewch i wefan Ymweld ag Eryri am fwy o fanylion.
22. Sut fedra i gysylltu efo chi, y trefnydd?
Os oes gennych unrhyw gwestiwn pellach, cysylltwch gyda ni ar:
Cofiwch:
Peidiwch â:
Drwy gofrestru ar-lein rydych yn cydnabod y datganiad canlynol:
Datganiad
Yr wyf yn datgan y byddaf yn cadw at y Rheolau Corff Llywodraethol Beicio Prydain, ac fy mod yn ffit i gymryd rhan yn y digwyddiad. Ni fyddaf yn dal trefnydd y digwyddiad yn gyfrifol am unrhyw anaf neu golled. Deallaf fod unrhyw benderfyniad terfynol ynghylch y digwyddiad yn nwylo y trefnydd sef Plas Heli Cyf.
| Angorfeydd yn Plas Heli | Gwersylla yn Plas Heli | Llogi Ystafell yn Plas Heli | Cyfleusterau Eraill | Bar ac Arlwyo |
Mae Plas Heli Cyf yn Gwmni Dosbarthu Menter Gymunedol, Dielw
Plas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT
Arlwyo a Bar: 01758 614 442
(dim ond ymholiadau arlwyo i'r rhif ffôn yma os gwelwch yn dda).
Sylwch nad oes staff yn y swyddfa ac y byddai eich ymholiadau'n cael eu trin yn fwy effeithlon pe baech yn anfon e-bost i'r adran briodol.
Defnyddiwch y ddolen briodol o'r tudalen 'Cysylltwch a Ni' .
Plas Heli Cyf Glany Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT
Cwmni Cofrestredig. Rhif: 08082514
Rhif TAW: GB 164061430