Mae'r Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau wedi ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd trwy Lywodreath Cymru a Chyngor Gwynedd.
Mae'r adeilad yn cynnwys:
- adeilad yr Academi (manylion isod)
- iard fawr ddiogel neu le i gynnal digwyddiadau awyr agored
- mynediad rwydd i'r traeth
- pontwns digwyddiadau, hyfforddi ac ymwelwyr
- hen adeilad Clwb Hwylio Pwllheli
- digonedd o le parcio ceir a charafannau
- Hwb offer y Grwp Awyr Agored
Mae gan y ganolfan yr holl offer angenrheidiol fel pabell fawr i gynnal pencampwriaethau hwylio mawr rhyngwladol gan gynnwys fflyd o RIBs diogelwch a gosod marciau, cychod swyddogol a'r holl farciau ar gyfer gwneud sawl cwrs.
Mae'r adeilad sydd wedi ennill gwobrau yn cynnwys y canlynol:
Llawr Gwaelod:
- Derbynfa
- Prif Neuadd
- Ystafelloedd hyfforddi / cyfarfod
- Ystafelloedd newid
- Cegin
Llawr Cyntaf:
- balconi mawr gyda golygfeydd anhygoel
- bwyty
- bar
- caffi
- Clwb Hwylio Pwllheli
Mae grisiau allanol a mewnol, ramp welltog a lifft yn fynediad i'r llawr cyntaf. Mae modd defnyddio'r ramp welltog fel eisteddle i ddigwyddiadau awyr agored hefyd.
Ar yr ail lawr mae balconi ychwanegol y gellir ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau preifat yn yr awyr agored.
Mae cynlluniau manwl o'r ystafelloedd ar bob llawr i'w gweld yma.