Mae’r pontwns ymwelwyr a digwyddiadau wedi eu cynllunio’n benodol ar gyfer digwyddiadau a hyfforddiant gyda phont fynediad a rhodfeydd llydan. Mae hyblygrwydd y baeau agored yn ddelfrydol ar gyfer pob math o ddigwyddiadau, sioeau ac arddangosfeydd morwrol.
Mae’r pontwns ar gael at ddefnydd cychod ymwelwyr, llynghesau sy’n ymweld, fflyd o gychod morio a digwyddiadau mawr cychod cel.
Mae gan harbwr Pwllheli fynediad 24awr i Fae Ceredigion ac mae’n fan delfrydol i ddechrau crwydro’r ardal ar arfordir. Am fwy o wybodaeth am yr hyn sydd gan Bwllheli a’r ardal i gynnig cliciwch yma.
Mae llithfra, pontwn isel a chraenmynediad anabledd yn golygu bod y cyfleuster yn addas ar gyfer hwylwyr ac anableddau, ceufadu, canwio a rhwyfo.
Gallwn hefyd gynnig gwasanaeth lawnsio cychod – cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Mae pontoons Porth Madryn r gael am gyfnod byr ar gyfer cychod o bob maint o RIBs i gychod cel mawr. Os hoffech chi fwy o wybodaeth am angori’ch cwch yma dros dro CLICIWCH YMA, llanwch y ffurflen (ymddiheuriadau ei bod yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd) a byddwn mewn cysylltiad yn fuan (rhaid dilyn ein termau ac amodau)
Hoffem amlygu:
- Mae’n rhaid cael o leiaf £3,000,000 o yswiriant trydydd parti
- Mae’r cyfleusterau ar y lan yn y Clwb Hwylio ac ar gael yn ystod oriau agor arferol y Clwb yn unig
- Nid yw’r cysylltiadau trydan ar y pontwns newydd yn gweithio eto. Ni ddisgwylir i’r cysylltiad weithio hyd agoriad adeilad yr Academi yn yr haf
- Mae angen côd i agor y giat ddiogelwch. Byddwn yn rhannu’r côd hwn â phawb sydd yn talu i angori
- Os gwelwch yn dda gwnewch yn siwr bod y giat wedi ei chloi drwy’r amser
- Dylai pawb fodloni eu hunain eu bod wedi gwneud popeth o fewn rheswm i ddiogelu yn erbyn lladron neu ddifrod.
- Nid yw Plas Heli, Clwb Hwylio Pwllheli Sailing Club, Cyngor Gwynedd Council, Hafan Marina, eu staff, isgontractwyr, gwirfoddolwyr neu asiantwyr yn gyfrifol am y cychod tra’u bod wedi eu hangori ar Borth Madryn.
- Côd Amgylcheddol – dylai pawb sydd wedi eu hangori ddilyn Côd Ymddygiad Amgylcheddol yr Hafan (gweler yma neu ar dudalen 8 llawlyfr yr Hafan)