Ar ddydd Sul y Pasg daeth 143 o bobl o bob cwr o Brydain i Ganolfan Hamdden Dwyfor yn blygeiniol i gymryd rhan yn Nhriathlon Pwllheli.
Â’r haul yn gwenu ar Ben Llŷn roedd y gwanwyn yn amlwg wedi cyrraedd gyda theuluoedd a ffrindiau’n gwneud y gorau o’r gwyliau a’r tywydd i gefnogi a bod yn rhan o ysbryd y dydd. Roedd gofyn i’r cystadleuwyr nofio 400 metr, beicio 20 cilomedr a wedyn rhedeg 5 cilomedr cyn gorffen yn ôl yng Nghanolfan Hamdden Dwyfor.
Oliver Blake o Groesoswallt oedd enillydd ras y dynion ar ei ymweliad cyntaf erioed â Llŷn gydag Arthur Connell o Festhesda yn ail a Gareth Bowyer yn drydydd. Lindsay Griffiths aeth â hi yn ras y merched gyda Bridget Ripley yn ail a Suzy Cumming yn drydydd. Eleri Jones oedd y ferch leol gyflymaf ac Emyr Jones y gwr lleol cyflymaf. Tîm Northcot oedd y tîm buddugol gyda Tri Rhiwen o Gaernarfon a Thîm Clwb Rybgi Caernarfon yn dynn ar eu sodlau.
Dywed Oliver Blake, sy’n cystadlu dros glwb OOTri yng Nghroesoswallt: “Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych i ddechrau fy nhymor. Roedd y llwybr beicio yn hyfryd gyda golygfeydd anhygoel – nid fod gen i’r amser i’w mwynhau yn iawn chwaith! Mae’n ddigwyddiad gwych i athletwyr fel fi sy’n chwilio am amser da neu eisiau cynhesu’r cyhyrau ar ddechrau’r tymor yn ogystal ag i ddechreuwyr. Mi fydda i yma eto’r flwyddyn nesaf a mwy na thebyg y bydda i’n ôl ar fy ngwyliau cyn hynny os yw’r tywydd fel hyn drwy’r amser!”
Dywed John Lloyd Williams o Gaernarfon a oedd yn rhan o dîm Rhiwen gyda’i fab Owain Llwyd: “Dyma’r tro cyntaf i ni gymryd rhan ac mae’n deimlad mor grêt i wneud rhywbeth fel hyn. Mae’r lleoliad mor hyfryd mae’n amhosibl peidio mwynhau!”
Dywed David Hughes, Swyddog Datblygu Cymunedol Plas Heli a threfnydd Triathlon Pwllheli: “Mae’n waith caled trefnu digwyddiad fel heddiw ac ni fyddai’n bosibl heb gefnogaeth ein noddwyr GHJ Civil Engineering, Gwasanaeth Bwyd Harlech, Spar Pwllheli, Iard Gychod Firmhelm, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a’r holl wirfoddolwyr. Mae’n bleser gweld bod pawb wedi mwynhau ac wedi cael diwrnod da, gan obeithio y cawn ni dywydd cystal ar gyfer Sportif Arfordirol Llŷn ar Fehefin y 7fed.”
English (UK) 













Plas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT