- Plas Heli -

Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau
Prif Ganolfan Digwyddiad Hwylio yng Nghymru
Cyfleuster Cymunedol

You have landed on the Welsh pages of the web site to switch to English click the flag.

-----------------------------------------

DATGANIAD I’R WASG

Yr Academi Hwylio’n hyrwyddo Pwllheli
Mae Plas Heli Cyf, y cwmni sy’n rhedeg Academi Hwylio Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Ddigwyddiadau ym Mhwllheli, i dderbyn £120,000 o Gronfa Cymunedau’r Arfordir y Loteri Fawr ar gyfer menter farchnata dros y ddwy flynedd nesaf.
Croesawyd dyfarniad y Loteri Fawr gan Bob Lowe, Is-Gadeirydd Plas Heli, ac meddai “Rydyn ni’n ystyried hwn fel cyfle pwysig i hyrwyddo Pwllheli a Llŷn fel cyrchfan i hwylwyr fydd yn dod i ymweld â ni.

Mae Plas Heli’n ymwybodol fod y blynyddoedd diweddar wedi bod yn gyfnod anodd i hwylwyr lleol, i Hafan Pwllheli a masnachwyr nwyddau morol. Mae’r amodau lleol a’r dirwasgiad economaidd wedi gwneud difrod i enw da Pwllheli fel cyrchfan i hwylwyr ar ymweliad ac y mae angen troi’r llanw o farn negyddol hwnnw ar frys.
Bwriadwn, drwy weithio â Phartneriaeth Pwllheli, hyrwyddo’r dre fel ‘Calon Hwylio Cymru’ a denu rhagor o gychod hwylio i ymweld â ni, gan gynnwys cyd-fordeithwyr a llyngesau bach, yn ogystal â digwyddiadau mawr a regatas. Bydd y prosiect yn codi proffil penrhyn Llŷn fel cyrchfan dwristaidd i’r ymwelwyr gan gynorthwyo’r economi leol yn uniongyrchol ac anuniongyrchol.
Mae’r angorfeydd a’r adnoddau regata newydd yn asgwrn cefn cynllun busnes Plas Heli a rhaid i ni sicrhau fod rhain yn cael eu hyrwyddo yn y marchnadoedd allweddol yn Iwerddon, Ewrop a gweddill y DU. Rydyn ni am ddatblygu ffyrdd a dulliau newydd o arddangos yr atyniadau a busnesau lleol yn Llŷn a Phwllheli ar gyfer hwylwyr sydd ar ymweliad, y cystadleuwyr a’u teuluoedd a sicrhau busnes yr eildro. Mae Plas Heli yn llwyr gefnogi ymgyrch ‘Cadw y Budd yn Lleol’ Cyngor Gwynedd ac y mae dros 35 o fusnesau lleol eisoes yn rhan o’r fenter hon gyda ni. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda’r cyngor sir ar eu Cynllun Rheolaeth Cyrchfan Gwynedd ar gyfer Penrhyn Llŷn ac yn gwerthfawrogi’r manteision ddaw wrth i lawer o fusnesau twristaidd gydweithredu.”
Bydd y prosiect yn cyflogi swyddog marchnata fydd yn gyfrifol am gychwyn ymchwil i’r farchnad, datblygu cynnyrch newydd i hyrwyddo Pwllheli, gan gynnwys y technegau cyfryngau cymdeithasol diweddaraf, ac yn gweithio gydag atyniadau twristaidd lleol a busnesau i sicrhau fod y cyfleoedd fydd wedi eu creu gan Academi Hwylio Cenedlaethol Cymru wedi eu deall a’u gwerthfawrogi. Mae’r prosiect yn anelu i gynyddu gwariant twristiaid o dros £1.5m a niferoedd yr ymwelwyr o dros 10,000. Bydd yn ysgogi creu meicro-fusnesau ac yn darparu swyddi ar gyfer hyfforddai galwedigaethol Coleg Meirion Dwyfor.
Bydd y dyfarniad grant yn arbennig o bwysig i gefnogi datblygiad busnes Plas Heli gydag ystod o weithgareddau newydd. O 2015, bydd Plas Heli yn ganolfan newydd gyffrous ar gyfer croesawu digwyddiadau diwylliannol, cynadleddau a sioeau busnes. Fel adnodd lleol, bydd yn darparu ar gyfer gweithgaredd cymunedol a digwyddiadau cymdeithasol a’r bwriad ydy datblygu gweithgaredd tu-hwnt-i’r-tymor fydd yn cyfrannu i’r economi leol.
Dywed Bob Lowe ei fod yn hyderus y bydd y Ganolfan yn hwb mawr i Bwllheli ac i’r economi leol. Ymhlith y prosiectau sydd yn yr arfaeth mae pencampwriaethau Rhyngwladol cychod Topper y Byd a’r Regata Celtaidd yn Awst 2014. Mae cynlluniau ar waith ar gyfer Pencampwriaethau byd y cychod ‘29er’ a ‘Fireball’ yn ystod 2015 ynghyd â Sioe Gychod Cymru.
Mae’r ‘cynnig’ awyr agored yng ngogledd Orllewin Cymru yn cael ei ystyried yn un eithriadol o ran manteision i’r economi dwristaidd. Yn lleol, mae’r Grŵp Awyr Agored, sydd wedi ei leoli ym Mhlas Heli, yn datblygu gweithgareddau a chystadleuthau ynghlwm â chanŵio, rhwyfo, seiclo a syrffio, wedi eu cefnogi gan grantiau oddi wrth Chwaraeon Cymru a chronfa Sblash. Mae digwyddiadau gwytnwch a her ar y gweill, a’r gobaith ydy denu cystadleuwyr a darparu hwb ychwanegol i Bwllheli yn ystod 2014.

Up Coming Events - Cafe Bar

No events found

Dolenni Cyflym Tudalennau Cyfleusterau Plas Heli

| Angorfeydd yn Plas Heli | Gwersylla yn Plas Heli | Llogi Ystafell yn Plas Heli | Cyfleusterau Eraill  | Bar ac Arlwyo |

Mae Plas Heli Cyf yn Gwmni Dosbarthu Menter Gymunedol, Dielw


 

At Phone Sign Meaning Contact Web And MobilePlas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT

Arlwyo a Bar:       01758 614 442
(dim ond ymholiadau arlwyo i'r rhif ffôn yma os gwelwch yn dda).

Sylwch nad oes staff yn y swyddfa ac y byddai eich ymholiadau'n cael eu trin yn fwy effeithlon pe baech yn anfon e-bost i'r adran briodol.

Defnyddiwch y ddolen briodol o'r tudalen 'Cysylltwch a Ni' .

Plas Heli Cyf Glany Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT

Cwmni Cofrestredig.  Rhif: 08082514
Rhif TAW: GB 164061430