Croeso i Gwyl Fwyd Tir a Mor Llyn sydd gyda chefndir o dros ddegawd o esblygu i gyrraedd ble ‘rydym heddiw.
Gyda lleoliad hyfryd gerbron y dwr i lawr yn yr Hafan Pwllheli ar ochr ddeheuol penrhyn Llyn,mae maes ein pabell mewn man breintiedig ac arbennig iawn.
Mae'r wyl flwyddyn yma ar benwythnos 23 a 24 o Fai. Ar gynnig bydd gennym bwydydd a diod o bob math gan gynnwys cigoedd, ffrwythau, crancod, llysiau, cwrw, caws, gwin, bara, fferins,pysgod ac yn y blaen – yn wir rhywbeth at ddant pawb!
Diolch am ymweld a’r safle We.
Edrychwn ymlaen i’ch gweld yn yr Wyl.Siwrna saff.
Mynediad - Oedolion £3.00 Plant am ddim ! Parcio am ddim!
Ariennir gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Llŷn


English (UK) 













Plas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT