Sut fedr eich busnes chi elwa o gydweithio efo Plas Heli?
Sut fedr eich busnes chi ein helpu ni i roi blas lleol i’n hymwelwyr?
Ymunwch â ni am sesiwn ryngweithiol sy’n un o gyfres a fydd yn ateb y cwestiynau hyn a llawer mwy (gobeithio!). Dewch i glywed ein cynlluniau am y dyfodol, dewch i rannu syniadau, dewch i fod yn rhan o ddyfodol digwyddiadau ym Mhwllheli!
Dyddiad: Dydd Iau, 25 Mehefin
Amser: Unai 7.30 – 8.30yb neu 2.30 – 3.30yh
Lle: Clwb Hwylio Pwllheli
Byddwn yn darparu lluniaeth ysgafn.
Rydym yn deall bod perchnogion busnes yn bobl brysur iawn ac felly mae gennym ddewis o ddwy sesiwn i chi ar adegau gwahanol. Gallwch ymuno â ni cyn gwaith rhwng 7.30 ac 8.30yb neu os yw'r diwrnod yn arafu i chi ganol y prynhawn dewch i''r sesiwn 2.30 - 3.30yh. Dim ond clicio ar eich dewis isod wrth gofrestru sydd angen.
Mae’r sesiwn am ddim ond mae’n rhaid cofrestru ymlaen llaw trwy glicio ar y linc isod, ein hebostio ni ar gyda’ch enw, enw’ch cwmni, rhif ffôn, chyfeiriad e-bost ac amser y sesiwn neu ein ffonio ar 01758 613 343. Cysylltwch â ni hefyd os na allwch chi ddod ond yr hoffech chi i ni gadw mewn cysylltiad â chi ynglyn â’r cyfleoedd.
English (UK) 













Plas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT