DATGANIAD GWELEDIGAETH AR GYFER DATBLYGU ACADEMI HWYLIO CENEDLAETHOL CYMRU a’r GANOLFAN DIGWYDDIADAU
Gweledigaeth y prosiect yw creu Academi Hwylio Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Digwyddiadau sy’n manteisio i’r eithaf ar botensial y lleoliad naturiol a'r dyfroedd hwylio o’r radd flaenaf o gwmpas Pwllheli. Bydd yr adnodd yn datblygu ac yn adeiladu ar enw da’r lleoliad a chadarnhau Pwllheli fel lleoliad hwylio dingi rhyngwladol enwog.
Fel Canolfan Rhagoriaeth hyfforddiant hwylio, bydd yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer hwylwyr o bob lefel cymhwysedd a gallu. Yn ogystal â gwahodd digwyddiadau dingi o safon cenedlaethol a rhyngwladol, bydd y cyfleusterau a ddarperir hefyd yn gallu darparu ar gyfer digwyddiadau cychod cêl, regatas hwylio a gweithgareddau chwaraeon môr eraill.
Gan ei fod yn hybu'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru bydd gan yr adnodd hwn gymeriad unigryw. Hefyd, drwy gyd gyfranogiad, bydd yr adnodd yn gynaliadwy a bydd lles economaidd hirdymor yn dod yn ei sgil i’r gymuned leol gan y bydd y gymuned, busnesau, ysgolion lleol a darparwyr eraill yn gallu defnyddio’i cyfleusterau aml-bwrpas.
Bydd y Ganolfan yn gwneud cyfraniad sylweddol i ddatblygiad Harbwr Pwllheli ac yn ategu at Hafan Pwllheli drwy ddarparu angorfeydd ar gyfer ymwelwyr a chyfleusterau ar y lan ar gyfer hwylwyr ar ymweliad.