
Plas Heli Cyf yw'r Cwmni sydd yn gyfrifol am redeg yr Academi Hwylio Genedlaethol Cymru a Chanolfan Ddigwyddiadau, ac mae’n Fenter Gymunedol, Cwmni Dielw.
Rydym yn Sefydliad Gwirfoddol gydag amcanion Elusennol lle mae gwargedion yn cael eu hail-fuddsoddi yn y cyfleuster er budd pawb.
Croeso - Welcome
i Plas Heli
Plas Heli yw Cwmni gweithredol Academi Hwylio Genedlaethol Cymru a'r Ganolfan Ddigwyddiadau.
>
Lleoliad gwych ar gyfer Digwyddiadau - pob math o ddigwyddiadau; rhwyfo, hwylio rali ceir, triathlonau, chynadleddau a gŵyl cerddoriaeth
Gallwn gynnal eich Digwyddiad Hwylio - mawr neu fach - cyfleusterau gwych, lleoliad rasio gwych gyda golygfeydd!
Cysylltwch â ni am fanylion
Ymlaciwch yn y Caffi Bar a mwynhewch y golygfeydd o'r môr a'r mynyddoedd
Edrychwch ar ein bwydlen Arbennig a beth am ginio dydd Sul?
Agos i'r Marina
Gallwn ddarparu ar gyfer partïon mawr a bach mewn dewis o fariau, bwytai, neuadd a balconïau gyda golygfeydd.,br> Cysylltwch â ni am fanylion.
Plas Heli is pleased to announce the release of the updated Event Organisers PlayBook, designed to make planning an event at the Welsh National Sailing Academy & Events Centre easier, clearer, and more efficient.
The PlayBook brings together all of the existing event‑related articles already published on the Plas Heli website into one convenient, structured layout. It acts as a central hub for organisers, linking directly to every operational resource required for successful event delivery — ashore and afloat.
The PlayBook is content‑rich and provides direct links to:
All Plas Heli RIBs and
Community engagement remains central to our mission at Plas Heli. Throughout 2026 we have continued to invest in our facilities, expand our offer, and support a wide range of activities that benefit local residents, organisations, and visitors.
Plas Heli now provides four refurbished meeting rooms, upgraded with new furniture and improved layouts to enhance comfort and accessibility. These rooms are in daily use by a wide variety of community groups and service providers, including:
Plas Heli has reconfigured the south camping area within the main compound.
The south area now has a fresh gravelled surface suitable for six campervans. The area has an atractive bush boundary and all pitches have hook-ups.

The Main compound camping for Motorhomes and Caravans is also re-numbered :
Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau
Pwllheli - Cymru
Calon Hwylio CymruMewn ychydig o eiliadau fe allwch chi fod ar eich ffordd ar wyliau hwylio i ogledd Cymru!
Mae Pwllheli o fewn cyrraedd diwrnod o hwylio i nifer o gyrchfanau megis Bae Dulyn, arfordir dwyreiniol Iwerddon, Ynys Manaw, gogledd a de orllewin Lloegr yn ogystal â de Cymru.
Pam ddim teithio ar draws Môr Iwerddon wrth eich pwysau, angori ar ein pontwn i ymwelwyr cyn crwydro o amgylch yr ardal yma o harddwch eithriadol ac Eryri gyfan?
Hwylio o’r Alban i arfordir y de neu Fôr y Canoldir? Angorwch ym Mhwllheli am noson, ewch am dro, ymlaciwch.
Bae Dulyn 75NM
Greystones 65NM
Arclow 65NM
Lerpwl 100NM
Carlingford 95NM
Bae Douglas 95NM
Whitehaven 135NM
Aberdaugleddau 90NM
Ynys Wyth 330NM

Mae gan Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau Plas Heli pontoons newydd i ymwelwyr. Gallwch archebu lle ar y pontwn ar gyfer arhosiad o 1 noson hyd at 90 noson trwy glicio yma.
Mae gan Hafan, y marina ym Mhwllheli, sydd y drws nesaf i Blas Heli, hefyd angorfeydd tymor byr ar gael gyda thrydan a dwr yfed. I archebu lle cysylltwch â’r Hafan yn uniongyrchol: (01758) 701 219 neu trwy glicio yma.
RHESTR O'R IARDAU CYCHOD A'R SIOPAU YN DOD YN FUAN

Dilynwch lwybr y pererinion i Ynys Enlli, amsugnwch swyn stori Rhys a Meinir yn Nant Gwrtheyrn neu dysgwch am gefndir morowrol yr ardal. Cloddiwch trwy hanes, diwylliant a thraddodiadau byw yr ardal tra’ch bod yma.
Ar ben bryn uwchben Criccieth mae’r castell yn edrych yn warcheidiol dros y dref. Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol gan Llywelyn Fawr a dyma safle gwrthryfel olaf y Cymry yn erbyn y Saeson. Cymrwch eich amser i ymlwybro trwy’r castell, ei borth gyda dau dwr a’r dref glan y môr fywiog.
Castell trawidaol arall sydd werth ymweld ag o yw’r gaer fygythiol yng Nghaernarfon. Defnyddiodd y brenin Edward y 1af yr adeilad mawreddoga’r dref gaerog i ddangos ei awdurdod ar y brodorion. Yn 1969 cynhaliwyd arwisgo’r Tywysog Siarl yn y castell.
Cliciwch ar wefan CADW am fwy o wybodaeth ar gestyll Cymreig cyfagos
PortmeirionPentref twristaidd Eidalaidd hudolus wedi ei adeiladu gan Syr Clough Williams-Ellis rhwng 1925 a 1975. Gwnaed Portmeirion yn enwog fel lleoliad y rhaglen gwlt The Prisoner yn 1967.
Heddiw gall ymwelwyr gerdded o amgylch y gerddi a’r penrhyn preifat sydd yn gartref i’r pentref. Mae’r pentref ei hun yn cynnwys tua 50 o adeiladau gan gynnwys bwytai a siopau. Amgylchynir y pentref gan 70 acer o erddi. Canolbwynt pentref Portmeirion yw’r gwesty sydd yn croesawu ymwelwyr dydd am ginio, te a chinio gyda’r nos.
Mae’r Ganolfan Dreftadaeth yn Nant Gwrtheyrn yn le gwych i ddechrau’ch taith i hanes, chwedloniaeth, diwylliant a thraddodiadau lleol. Wedi ei lleoli mewn hen bentref chwarel ar arfordir gogleddol y penrhyn mae’r ganolfan yn le gwych i gloddio yn hanes a diwylliant Cymru yn ogystal â hanes y pentref a’r chwarel ei hun.
Draw yn eglwys Santes Fair yn Nefyn mae casglaid unigryw o drugareddau morwrol sy’n adrodd hanes cychod a adeiladwyd yn lleol, hwylwyr lleol a chapteiniaid lleol.
Beth am ymweliad ag oriel hynaf Cymru gyda 6 arddangosfa o fewn adeilad cofrestredig a adeiladwyd yn yr 1850au ym mhentref glan y môr Llanbedrog. Yn ogystal â’r arddangosfeydd misol, y gweithdai celf, darlithoedd a ffeiriau crefft mae Plas Glyn y Weddw wedi ail-agor rhwydwaith o lwybrau byr sydd yn ymuno â Llwybr Arfordir Cymru.
Gwefan Oriel Plas Glyn y Weddw
Porth y SwntCanolfan ddadansoddi newydd yn Aberdaron sy’n defnyddio barddoniaeth a gwaith celf i arwain pawb ar eu taith bersonol trwy hanes, diwylliant ac amgylchedd Llŷn. Mae gan y ganolfan hefyd syniadau pellach am atyniadau a llwybrau lleol.
Gwybodaeth am Porth y Swnt ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (yn Saesneg)
Ymlwybrwch trwy’r plasty yma o’r 16eg ganrif. Rhyfeddwch at y golygfeydd dros Fae Ceredigion o’r gerddi.
Gwybodaeth am Plas yn Rhiw ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (yn Saesneg)
Nid oes rhaid i chi ymweld ag amgueddfa, castell nac unrhyw ganolfan i brofi rhywfaint o hanes lleol – mae o o’ch cwmpas ym mhob man. Wrth deithio ar hyd y ffyrdd gwledig cadwch olwg am 8 arwydd ffordd a godwyd yn wreiddiol yn 1903. Mae nhw bellach wedi eu hadfer yn gelfydd ac yn arwain y ffordd i genhedlaeth arall o deithwyr. Mi ddylech hefyd sylwi ar cerrig milltir llechen a charreg gwreiddiol ar hyd ochrau’r ffyrdd – dychmygwch deithio ar hyd y ffyrdd hyn dros ganrif yn ôl!
AnturHoffech chi wibio trwy’r awyr uwchben chwarel ar linell zip cyflyma’r byd? Hoffech chi neidio mewn hen ogof chwarel lechi yn y lle chwarael tanddaearol cyntaf o’i math?Beth am geufadu ar ddwr gwyn? Dringo? Arfordiro? Syrffio? Croeso i Galon Antur Cymru!
Cliciwch yma i chwilio am ddarparwyr gweithgareddau lleol ar wefan Croeso Cymru.

Beth hoffech chi wneud gyda’ch amser?
O draethau teuluol gyda’r holl gyfleusterau, i’r traeth delfrydol i adeiladu cestyll a chwilio am grancod, i’r traeth gyda’r don berffaith neu’r traeth anghysbell i synfyfyrio’r pnawn gyda llyfr, mae yna draeth yn Llŷn i bawb.

Defnyddiwch ran o 84 milltir Llwybr Arfordir Cymru o amgylch Llŷn i ymlwybro o amgylch y clogwyni a’r cildraethau lleol. Mae’r llwybr yn dilyn llwybrau cyhoeddus, ffyrdd bach gwledig a thraethau o Gaernarfon ar hyd arfordir gogleddol y penrhyn i Aberdaron cyn dilyn yr arfordir ddeheuol i Borthmadog gan fynd heibio Plas Heli a Marina Hafan Pwllheli ar ei ffordd. Dewisiwch lwybr cylchol byr, cerddwch am ddiwrnod neu beth am gymryd ychydig o ddyddiau i gerdded yr holl ffordd o amgylch Llŷn?
Gwefan Llwybr Arfordir Cymru Gwefan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Gyda throed yr Wyddfa yn ddim ond 19 milltir i ffwrdd pam ddim lleoli’ch hun yn Llŷn wrth grwydro Eryri? Mae rhywbeth i bawb yn Eryri - gallwch fynd am dro’n hamddenol neu ddringo clogwyni serth. Dringwch i’r copa uchaf yng Nghymru a Lloegr (sy’n gwbl addas i deuluoedd) neu beth am sialens y 15 copa – dringo i ben 15 mynydd Eryri sydd dros 3,000 troedfedd o uchder ofewn 24 awr!!
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am lwybrau yn Eryri:
Gwefan Parc Cenedlaethol Eryri
Hyd yn oed os mai dim ond awr neu ddwy sydd gennych chi i’w lenwi mae digon o lwybrau i’ch denu allan i droedi tirwedd brydferth Llŷn a darganfod hanes lleol. Yn ogystal â bod yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) mae llawer o Lŷn ar Gofrestr Tirweddau Hanesyddol Cymru.
Ceir mwy o wybodaeth am lwybrau byrion a lleol yn Llŷn ar y gwefannau isod:
Gwefan AHNE Ymddiriedolaeth Genedlaethol (yn Saesneg) Gwefan Llyn Info (yn Saesneg) Gwefan Gymunedol Rhiw

Ydych chi wedi anghofio eich bwced a rhaw? Angen gwneud eich siopau wythnosol? Angen anrheg o lechen o Gymru? Beth am rhywbeth bach i'ch hunain? Dilledyn neu gynnyrch lleol?
O’r archfarchnadoedd arferol i’r siopau bychain sydd yn gwerthu pob mathau o ddanteithion lleol bydd modd i chi brynu popeth ar gyfer eich gwyliau hunan arlwyo yma yn lleol.
Os ydych chi yn chwilio am rhywbeth mwy unigryw mae Pwllheli a Llŷn yn frith o siopau annibynol, siopau syrffio, crefftwyr lleol, artistiaid a chynhyrchwyr bwyd sydd yn croesawu siopwyr a phorwyr fel ei gilydd!
Edrychwch ar y rhestr isod neu gofynnwch wrth unrhyw un yn lleol ac rydym yn ffyddiog y byddwch wedi’ch bodloni.
RHESTR I DDOD YN FUAN

Hoffech chi osgoi gwneud pecyn bwyd dyddiol â chithau ar eich gwyliau? Ydych chi yn chwilio am damaid bach i lenwi twll ar ôl dod oddi ar y dŵr? Hoffech chi drio danteithion lleol? Ydych chi yn chwilio am swper teuluol neu rhywle am noson ramantus?
Mae gan Bwllheli a gweddill Llŷn rhywbeth ar gyfer pawb, beth bynnag fo’ch blas neu’ch anghenion dietegol.
Tarwch olwg dros y rhestr isod, cysylltu gyda’r Ganolfan Groeso leol am gyngor diduedd neu, wedi i chi gyrraedd, gofynnwch wrth unrhyw aelod o staff Plas Heli am ein hoff lefydd ni’n bersonol.
RHESTR I DDOD YN FUAN
Fire Alarm Service
Site: Plas Heli Cyf.
Job Type: Maintenance Fire Alarm Sensor
Ref:
Date of...
Located in the Back Bar on the First Floor - every Thursday night from about 6pm.
Meeting Title: RYA First Aid Course
Meeting Description: RYA First Aid Course including Emergency...
Every Tuesday and Wednesday in all three training rooms during the Autumn, Spring and Summer Terms...
Every Tuesday and Wednesday in all three training rooms during the Autumn, Spring and Summer Terms...