Gan ddilyn penwythnos llwyddiannus a phrysur gyda Triathlon a Phriodas yr wythnos ddiwethaf, rydym yn cynnyddu'r tempo unwaith yn rhagor gyda llawer o ddigwyddiadau mawr yn y dyddiadur dros yr wythnosau nesaf.
Bydd y penwythnos nesaf y prysuraf eto, gyda 450 o bobl yn ymweld a Plas Heli am bryd 4 cwrs ac adloniant yn y Neuadd fawr, ac ardal y llawr cyntaf. O ganlyniad mae'r paratoadau yn mynd rhagddi yn y gegin, ond byddwch yn ymwybodol y bydd y digwyddiad mawr yma yn golygu y bydd y cynnig yn y Bar a'r Bwyty, nos iau, nos wener a nos sadwrn yn wahanol i'r arferol. Ni fydd y bwyty ar agor nos iau y 6ed o Orffennaf, ond byddwn ar agor bob dydd am ginio a phaneidiau fel arfer. Bydd bwyd ar gael, ar fwydlen cyfyngedig ar y Bar nos Wener a nos Sadwrn dros gyfnod y digwyddiad mawr.
Hefyd, rydym yn ymddiheuro na fydd y Carferi Sul yn rhedeg y Sul yma (9fed o Orffennaf), ond byddwn yn ol fel arfer y Sul canlynol. Os hoffech archebu bwrdd, cysylltwch gyda ni ar: 01758 614 442.
Bydd y Bar a'r Caffi ar agor i'r cyhoedd trwy gydol y penwythnos, ac edrychwn ymlaen i'ch croesawu. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustod a achosir i chi. Am fwy o fanylion am beth sydd ar gael dros y penwythnos, cysylltwch gyda ni ar: 01758 614 442 or 01758 613 343.
Diolch am eich dealldwriaeth.
English (UK)
















Plas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT